Camlas
Adam Cooke

Adam Cooke

Cynorthwyydd Monitro Gwleidyddol

Ymunodd Adam â Chamlas fel Cynorthwyydd Monitro Gwleidyddol ym mis Medi 2022.

Fe’i magwyd yn y Bwlch, ym Mannau Brycheiniog, ac astudiodd BA Hanes ym Mhrifysgol Caerwysg. Yn ddiweddarach ymgymerodd â gradd Meistr mewn Llywodraeth Cymru a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ennill gradd rhagoriaeth.

Canolbwyntiodd traethawd hir Adam ar y berthynas rhwng syniadau gwahanol am y wladwriaeth a chysylltiadau rhynglywodraethol ym Mhrydain. Ar wahân i faterion cyfansoddiadol, mae gan Adam ddiddordeb mewn polisi sy’n ymwneud â thwristiaeth, trafnidiaeth, a newid hinsawdd.

I ffwrdd o wleidyddiaeth, mae Adam yn mwynhau gwylio a chwarae pêl-droed, teithio a cherdded. Mae Adam hefyd yn Gynghorydd Cymunedol yn Ninas Powys.

Ffôn: 029 2063 0646
Ebost: adam@camlas.cymru