Camlas
Angela Burns MBE

Angela Burns MBE

Cadeirydd

Cyn ymuno â Camlas fel Cadeirydd y Bwrdd, cafodd Angela brofiad sylweddol ym myd busnes a gwleidyddiaeth. Fel Aelod o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro o 2007 hyd nes iddi sefyll i lawr yn 2021, roedd Angela nid yn unig yn cynrychioli ei hetholwyr yn lleol ac yn y Senedd ond roedd ganddi gyfrifoldebau mawr yn y Cabinet Cysgodol, gan gynnwys Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd, Gweinidog Addysg yr Wrthblaid ac am y pum mlynedd diwethaf Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid.

Treuliodd Angela bedair blynedd hefyd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a rhwng 2011 a 2016 roedd hi’n Gomisiynydd y Senedd gyda chyfrifoldeb am gyllid a staff ac yn Aelod o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad.

Deilliodd ymwneud Angela â gwleidyddiaeth o’i hawydd i ddefnyddio ei phrofiadau busnes a bywyd i wneud gwahaniaeth gweithredol ac ymarferol i gymdeithas. Dros gyfnod o 25 mlynedd bu’n gweithio i sefydliadau yn amrywio o Bartneriaeth John Lewis, Asda a Thorn EMI i fentrau llai gan gynnwys busnesau bach a chanolig mewn TG. Gyda phrofiad o gychwyn ei busnes ei hun, gwerthu i gleientiaid proffil uchel, a rheoli timau mawr, mae Angela yn deall yn glir anghenion sefydliadau i allu cyfathrebu’n effeithiol â rhanddeiliaid.