Camlas
Dafydd Huw

Dafydd Huw

Cyfarwyddwr a Phennaeth Monitro 

Mae Dafydd yn Gyfarwyddwr ac yn Bennaeth Monitro yn Camlas. Mae wedi gweithio ym myd materion cyhoeddus yng Nghymru ers 2016.

Yn wreiddiol o Landdoged yn Nyffryn Conwy, derbyniodd Dafydd radd dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth gan Brifysgol Lerpwl yn 2015, cyn astudio ar gyfer MSc (Econ) mewn Gwleidyddiaeth a Llywodraeth Cymru ac MSc mewn Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae gan Dafydd ddiddordeb brwd mewn materion cyfansoddiadol a deddfwriaethol ac mae ganddo ddealltwriaeth eang o setliad cyfreithiol Cymru ddatganoledig. Mae hefyd yn gerddor ac ysgolhaig organ sydd wedi’i hyfforddi’n glasurol.

Ffôn: 029 2063 0646 | 07530 886 872
Ebost: dafydd@camlas.cymru