Camlas
Kirsty Fox Hay

Kirsty Fox Hay

Ymgynghorydd Gwleidyddol

Ymunodd Kirsty Fox Hay â Camlas ym mis Ionawr 2022 fel Cynorthwyydd Monitro Gwleidyddol. Cafodd ei dyrchafu i rôl Ymgynghorydd Gwleidyddol ym mis Ionawr 2023.

Yn enedigol o Gaerdydd, aeth Kirsty ymlaen i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, lle bu’n gweithio am gyfnod yn y Senedd gyda’r cyn-aelod dros Orllewin De Cymru, Dr Dai Lloyd. Yn ystod ei hastudiaethau israddedig, bu Kirsty yn ysgrifennydd Cymdeithas Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol y brifysgol a threfnodd sawl digwyddiad gyda siaradwyr fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS.

Yn ddiweddar, mae Kirsty hefyd wedi gorffen ei MA yn Abertawe yn astudio Datblygiad a Hawliau Dynol, gan gwblhau ei thraethawd hir ar bolisïau’r Deyrnas Gyfunol ar atal trais yn erbyn menywod a merched.

Ymhlith diddordebau polisi Kirsty mae cydraddoldeb, materion cymdeithasol, iechyd meddwl a hawliau dynol. Y tu allan i’r gwaith, mae Kirsty yn mwynhau darllen, ymweld ag amgueddfeydd a mynychu gwyliau.

Ffôn: 029 2063 0646
Ebost: kirsty@camlas.cymru