Camlas
Naomi Williams

Naomi Williams

Rheolwr Gyfarwyddwr a Chydberchennog

Mae Naomi Williams yn Rheolwr Gyfarwyddwr ac yn Gydberchennog ar Camlas. Mae Naomi wedi gweithio ym materion cyhoeddus yng Nghymru ers 2011 ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio ar draws nifer o feysydd polisi, gyda ffocws penodol ar seilwaith, tai, ynni a’r amgylchedd. Mae hi’n darparu cyngor a chefnogaeth strategol i gleientiaid ar eu hymgysylltiad gwleidyddol yng Nghymru. Naomi odd Cadeirydd Materion Cyhoeddus Cymru (PAC) rhwng 2021/23. Mae Naomi hefyd yn sylwebydd gwleidyddol rheolaidd ar raglenni newyddion Cymraeg yn cynnig dadansoddiad o’r datblygiadau gwleidyddol diweddaraf yng Nghymru.

Yn wreiddiol o Criccieth, graddiodd Naomi o Brifysgol Caerdydd gyda gradd BA mewn Gwleidyddiaeth a Chymraeg ac aeth ymlaen i dderbyn gradd Meistr ôl-raddedig mewn Cysylltiadau Rhyngwladol. Fel cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, mae hi’n darparu cyfleoedd mentoriaeth yn rheolaidd i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig cyfredol y brifysgol. Yn ogystal, mae ganddi Ddiploma mewn Cysylltiadau Cyhoeddus gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus.

Cyn ymuno â Camlas, bu’n gweithio fel ymgynghorydd cyfreithiol i Gymdeithas y Gyfraith ac gweithiodd i Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, Dafydd Elis-Thomas ac Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru, Dr Dai Lloyd.

Ffôn: 029 2063 0646
Ebost: naomi@camlas.cymru