Camlas
Steven Jones

Steven Jones

Ymgynghorydd Arbenigol 

Mae Steve wedi bod yng nghanol gwleidyddiaeth ers sawl mlynedd wedi iddo dreulio 14 mlynedd fel aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Croesoswallt (1985-1999) lle’r oedd yn Gadeirydd Pwyllgor Cynllunio & Datblygu a Chadeirydd Pwyllgor Polisi & Adnoddau, ymysg swyddi eraill. Roedd hefyd yn aelod o Gyngor Sir Amwythig yn ystod yr amser hwn, gan roi dealltwriaeth eang iddo o weithrediad llywodraeth leol.

Roedd Steve hefyd yn gweithio fel Cynghorydd Arbennig i Brif Chwip Llywodraeth y DU, Y Gwir Anrh. Hilary Armstrong AS (yn ystod arweinyddiaeth Tony Blair), wedi ei seilio yn Stryd Downing a Thŷ’r Cyffredin. Yn rhinwedd ei swydd, roedd yn cynghori ar ddatblygiad strategaeth wleidyddol, materion deddfwriaethol, gwybodaeth am ymdeimlad meinciau cefn a goruchwyliaeth cyfryngau. Yn ddiweddarach, roedd Steve yn Gynghorydd Arbennig i Gabinet Llywodraeth Cymru (2009-2014). Roedd y rôl yn cynnwys cyfrifoldeb dros gyfryngau a chysylltiadau (gan gynnwys cysylltiadau strategol). Roedd o’n cynghori ar bob elfen o gyfryngau a chysylltiadau gan gynnwys strategaeth wleidyddol ac roedd ganddo gyfrifoldeb dros gysylltu ag aelodau meinciau cefn am gefnogaeth i’r Prif Weinidog, y Prif Chwip a Gweinidog Busnes y Llywodraeth. Mae profiad sector breifat Steve yn cynnwys darparu cyngor strategol, gwleidyddol, cysylltiadau a rheoli argyfwng i gleientiaid yn y DU a’r Caribî mewn sawl maes gan gynnwys ynni.