Cyfarwyddwr Anweithredol ac Ymgynghorydd Arbenigol
Roedd y Gwir Anrhydeddus Syr David Hanson yn Aelod Seneddol dros etholaeth Delyn rhwng 1992-2019.
Gwasanaethodd fel Gweinidog yn y Swyddfa Gartref, Gogledd Iwerddon, Cyfiawnder, Cymru a’r Swyddfa’r Chwipiaid a bu’n Ysgrifennydd Seneddol i’r Prif Weinidog am bedair blynedd.
Gwasanaethodd David ar amryw o bwyllgorau dethol, gan gynnwys Cyfiawnder a Chymru, ac fe’i penodwyd i wasanaethu ar y pwyllgor cudd-wybodaeth a diogelwch sy’n goruchwylio gwaith MI5 a MI6. Bu hefyd yn cadeirio trafodion yn San Steffan fel aelod o Banel Cadeiryddion Llefarydd Tŷ’r Cyffredin.
Cyn San Steffan bu David yn gweithio fel Cyfarwyddwr elusen genedlaethol, ym maes manwerthu i’r Coop ac fel rheolwr gwasanaeth cenedlaethol. Mae ganddo brofiad helaeth mewn llywodraeth leol ar ôl bod yn gynghorydd lleol, yn gadeirydd pwyllgor ac yn arweinydd ei grŵp.
Ers gadael San Steffan mae David wedi bod yn ymddiriedolwr gydag elusennau cenedlaethol ac yn lleol yn y Gogledd. Ei ddiddordebau y tu allan i’r teulu yw’r sinema, teithio a gwylio pêl-droed.