Camlas yw’r cwmni materion cyhoeddus cyntaf yng Nghymru i gyflwyno Wythnos 4-Diwrnod (9 Mai 2023)
Mae Camlas, cwmni materion gyhoeddus, yn hynod falch i gyhoeddi y byddwn yn gweithredu wythnos waith 4 diwrnod ar gyfer ein gweithwyr. Mae’r newid hwn yn gam beiddgar i’r cwmni wrth i ni geisio blaenoriaethu iechyd a lles ein staff tra’n cynnal ein hymrwymiad i gyflawni gwaith o ansawdd uchel i’n holl gleientiaid.
Mae’r penderfyniad i fabwysiadu’r wythnos waith 4 diwrnod yn unol â’n hymdrechion parhaus i greu diwylliant cadarnhaol a chynhwysol yn y gweithle sy’n hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac sy’n caniatáu i’n staff ffynnu yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae canlyniadau treialon a gynhaliwyd ledled y DU wedi dangos cynhyrchiant uwch, wedi rhoi hwb sylweddol i forâl gweithwyr, wedi lleihau lefelau straen yn ogystal â bodlonrwydd swydd uwch.
Mae Camlas wedi ymrwymo i hyrwyddo lles gweithwyr ac rydym eisoes yn cynnig ystod o fanteision i weithwyr, gan gynnwys trefniadau gweithio hyblyg, cymorth iechyd meddwl, a chyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus ac mae symud i wythnos waith 4 diwrnod yn cyd-fynd yn berffaith â’r nod hwn.
“Rydym yn cydnabod mai ein staff yw ein hased mwyaf gwerthfawr, a chredwn, trwy gyflwyno wythnos waith 4 diwrnod, y gallwn greu amgylchedd gwaith iachach a mwy cynaliadwy ar eu cyfer,” meddai Naomi Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Camlas. “Bydd y penderfyniad hwn nid yn unig o fudd i’n gweithwyr ond hefyd i’n cleientiaid, gan y bydd ein tîm yn canolbwyntio mwy, yn adfywiol ac yn fwy cynhyrchiol.”
Yn ddiweddar trefnodd Mark Hooper o 4 Day Week Cymru ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu Wythnos 4 Diwrnod yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Yn ymateb i gyhoeddiad Camlas, dywedodd: “Mae hyn yn newyddion gwych ac yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i les cydweithwyr ar draws busnes Camlas. Mae arweinyddiaeth mewn sectorau fel materion cyhoeddus yn allweddol er mwyn newid ein hagwedd gyfunol at waith.”
