Camlas
Cynnig Cymraeg

Cynnig Cymraeg

Yn ddiweddar rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Comisiynydd Cymraeg i lunio ein Cynnig Cymraeg ac mae’n anrhydedd inni ein bod wedi derbyn achrediad.

Mae Camlas yn gwmni dwyieithog gyda mwyafrif o’r staff yn siaradwyr Cymraeg ac rydym yn falch o ddarparu gwasanaeth llwyr ddwyieithog i’n cleientiaid – yr unig gwmni materion cyhoeddus yng Nghymru i wneud hynny.

Byddwn yn parhau i ddatblygu a monitro’r defnydd o’r Gymraeg yn ein gwaith a byddwn yn adolygu ein cynnig Cymraeg ac yn cynllunio bob blwyddyn mewn cydweithrediad â thîm hybu’r Comisiynydd.

Os ydych chi’n elusen neu’n fusnes sydd eisoes â pholisi Cymraeg ar waith neu’n edrych i lunio un, mae hwn yn gyfle i weithio gyda’r Comisiynydd Cymraeg i sicrhau bod eich polisi’n addas, i dderbyn cydnabyddiaeth ac i gynyddu’r defnydd o’ch gwasanaethau. Dysgwch fwy am y Cynnig Cymraeg yma.