Rydym yn darparu cyngor, gwybodaeth a deallusrwydd arbenigol i gleientiaid ar bob agwedd ar fywyd gwleidyddol yng Nghymru ac yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau. Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’n gwasanaethau neu hoffech ddysgu mwy, e-bostiwch un o’r tîm neu rhowch alwad ffôn i’r swyddfa.
Ymgynghoriaeth Wleidyddol
Ble ydych chi’n ffitio i mewn i faterion cyhoeddus Cymru? P’un a ydych am ymgyrchu ar un mater neu eisiau codi’ch proffil corfforaethol, cymunedol neu elusennol, mae’n hanfodol eich bod chi’n gwybod sut, a ble i leoli’ch hun ym maes materion cyhoeddus Cymru.
Mae gan ein holl ymgynghorwyr brofiad sylweddol ym materion cyhoeddus Cymru a gallent hwy eich cynorthwyo chi i werthuso eich sefyllfa gyda rhanddeiliaid gwleidyddol allweddol a gweithio gyda chi i ddyfeisio strategaeth ymgysylltu wleidyddol sy’n gweithio i chi.
Cysylltwch â Naomi Williams am ragor o wybodaeth.
Archwiliadau Rhanddeiliaid
Pa mor dda y mae rhanddeiliaid allweddol yn eich sector yn eich adnabod chi fel sefydliad? Mae Camlas yn cydnabod bod enw da yn allweddol a gallwn eich helpu i ddeall canfyddiadau cyfredol eich sefydliadau a’ch gwaith ymhlith rhanddeiliaid allweddol.
Rydym wedi cynnal llawer o archwiliadau i’n cleientiaid, gan gysylltu’n uniongyrchol â rhanddeiliaid ar eu rhan a darparu dadansoddiad o’r hyn y mae eu hymatebion yn ei olygu i chi a sut y gallwch chi ddefnyddio’r canlyniadau i wella’ch delwedd.
Cysylltwch â Susan Bowen am ragor o wybodaeth.
Monitro Gwleidyddol
Nid yw llywio strwythurau gwleidyddol y Gymru fodern yn syml. Beth sy’n wirioneddol berthnasol a sut ydych chi’n dod o hyd iddo? Nid oes gennych yr amser, yr amynedd na’r tueddiad i’w wneud – felly gadewch inni wneud hynny ar eich rhan!
Mae Camlas yn cynnig gwasanaeth monitro gwleidyddol parhaus o’r Senedd a Llywodraeth Cymru. Mae tanysgrifwyr i’n gwasanaeth monitro gwleidyddol yn derbyn diweddariadau dyddiol ac adroddiad wythnosol cynhwysfawr, gyda chynnwys sy’n unigryw ac wedi’i deilwra’n uniongyrchol i’w sefydliad.
Cysylltwch â Dafydd Huw am ragor o wybodaeth neu i drefnu treial am ddim.
Rheoli Digwyddiad
Oes gennych chi gynnyrch i’w lansio? Adroddiad i’w hyrwyddo? Rhanddeiliaid i gwrdd? Mae gan Camlas brofiad helaeth o reoli digwyddiadau sydd â dimensiwn gwleidyddol neu bolisi. Felly os ydych angen cynnal derbyniad blynyddol, trafodaeth bwrdd crwn, digwyddiad neu gynhadledd rhanddeiliaid, gadewch i ni drefnu’r cyfan i chi!
Cysylltwch â Susan Bowen am ragor o wybodaeth.
Hyfforddiant Gwleidyddol
Fel y gwyddom i gyd, mae gwleidyddiaeth yn fwystfil sy’n symud ac yn newid yn gyson a gall fod yn anodd cadw i fyny â’r datblygiadau diweddaraf. Dyna pam mae Camlas yn cynnig cyrsiau hyfforddi sydd wedi’u cynllunio a’u cyflwyno gennym ni er mwyn eich diweddaru chi ynglŷn â gwaith y Senedd; Llywodraeth Cymru; deddfwriaeth ddiweddaraf a datblygiadau cyfansoddiadol; ymgyrchu a gweithio gyda gwleidyddion yn effeithiol; ac, ar y cyd-destunau polisi sy’n berthnasol i chi a’ch sefydliad
Cysylltwch â Rhodri ab Owen am ragor o wybodaeth.
Cefnogaeth Iaith Gymraeg
Mae gweithredu’n ddwyieithog yn bwysig inni a chredwn y dylai fod i bawb sy’n gweithio ym materion cyhoeddus yng Nghymru. Felly, mae Camlas yn cynnig gwasanaeth cyfieithu a phrawf ddarllen unigryw i’n cleientiaid, gan weithio ochr yn ochr â chwmni cyfieithu sefydledig. Gallwn gyfieithu darnau bach o waith, fel e-byst neu wahoddiadau, hyd at eitemau mwy, gan gynnwys adroddiadau i’w lansio yn y Senedd.
Cysylltwch â Rhodri ab Owen am ragor o wybodaeth.