Camlas
Gwerthoedd

Gwerthoedd

Yn Camlas, rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol o ddifrif. Rydym ni eisiau bod yn rhan o’n cymuned a chredwn mewn gweithredu heddiw i wneud Cymru yn lle gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Camlas yn falch o fod yn rhan o brosiect rhyng-ffydd Croeso Butetown i groesawu, cartrefi a chefnogi teulu o ffoaduriaid trwy Gynllun Nawdd Cymunedol y Swyddfa Gartref.

Unwaith y chwarter, mae tîm Camlas yn cynorthwyo i weini lluniaeth i’r digartref yng nghanol dinas Caerdydd ac yn eu cyfeirio at gefnogaeth ymarferol pan fo angen.

Mae Camlas yn falch o gefnogi Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Stonewall Cymru, Anabledd Cymru a Tîm Lleiafrifoedd Ethnig Cymru a Thîm Cymorth Ieuenctid Cymru, yn eu cynllun mentora sydd â’r nod o gynyddu amrywiaeth y gynrychiolaeth ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol Cymru.

Mae Camlas yn falch o lofnodi’r Siarter Busnes Da sy’n cydnabod ymddygiad busnes cyfrifol ar draws 10 adran, gan gynnwys Cyflog Byw go iawn, contractau ac oriau tecach, lles gweithwyr, amrywiaeth a chynhwysiant, cyfrifoldeb amgylcheddol a cyrchu moesegol. Darllenwch fwy yma.

Mae Camlas yn hyrwyddo model gweithio hybrid sy’n galluogi staff i weithio gartref neu yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd. Mae hyn nid yn unig yn sicrhau model gweithio mwy effeithiol ond yn cefnogi aelodau staff sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Mae gan Camlas ddiddordeb bob amser i glywed gan unigolion a hoffai ymgymryd â lleoliad profiad gwaith gyda ni. Rydym yn gweithio gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol ac yn talu’r cyflog byw i bawb, bob amser.

Mae Camlas yn credu mewn rhoi yn ôl i’n cymuned leol ac felly rydym yn annog pob aelod o staff i gymryd dwy awr o’u hwythnos waith i wneud gwaith gwirfoddoli. Mae hyn wedi caniatáu i aelodau staff ddod yn llywodraethwyr ysgol a chymryd rhan mewn mentrau casglu sbwriel lleol.

Mae Camlas yn annog holl aelodau’r tîm i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad i’n swyddfa ym Mae Caerdydd a rydym yn cefnogi staff i brynu beiciau ac offer diogelwch trwy’r Cyclescheme.