Cyfarwyddwr Startegaeth
Joe Castle yw Cyfarwyddwr Strategaeth Camlas. Yn dilyn gyrfa yn y GIG yng Nghymru a’r llywodraeth, ymunodd â’r sector fferyllol arloesol, gan weithio i Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI), yn fwyaf diweddar fel eu Pennaeth Materion Allanol a Gweithrediadau yng Nghymru.
Wedi’i geni a’i magu yn Ne Cymru, graddiodd Joe o’r Brifysgol Agored gyda BA mewn Polisi Cymdeithasol, cyn cwblhau ei gradd meistr yn yr un pwnc ym Mhrifysgol Caerdydd. Canolbwyntiodd ei thraethawd hir ar gyd-gynhyrchu polisi iechyd a’i weithredu, gan ganolbwyntio ar rôl sefydliadau cleifion a’r trydydd sector.
Yn gyn-aelod o bwyllgor Materion Cyhoeddus Cymru ac yn Is-gadeirydd Cynghrair Iechyd a Llesiant Conffederasiwn GIG Cymru, mae Joe ar hyn o bryd yn eistedd ar gorff llywodraethu Coleg Addysg Bellach Pen-y-bont ar Ogwr, yn aelod o Fwrdd y Cynllun ar gyfer Cymdogaethau – Y Barri ac yn helpu i redeg Baobab Bach CIC Y Barri.
Ffôn: 029 2063 0646
Ebost: joe.castle@camlas.wales
