Ymgynghorydd Gwleidyddol a Dirprwy Bennaeth Monitro
Ymunodd Ellis â Camlas ym mis Chwefror 2024 fel Cynorthwyydd Monitro Gwleidyddol ar ôl graddio o Brifysgol Reading.
Fe’i magwyd mewn pentref bychan y tu allan i Gaerfyrddin ac astudiodd Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ar gyfer ei radd israddedig. Roedd ei draethawd hir yn archwilio’r cynnydd diweddar yn y gefnogaeth i’r mudiad annibyniaeth Gymreig trwy gyfweld â ffigurau allweddol sy’n gysylltiedig â’r mudiad.
Mae diddordebau polisi Ellis yn cynnwys cysylltiadau rhyngwladol, y cyfansoddiad Cymreig, a’r iaith Gymraeg. Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau chwarae’r gitâr a mynychu gigs.
Ffôn: 029 2063 0646
Ebost: ellis@camlas.cymru
