Ymgynghorydd Gwleidyddol
Ymunodd Joe â Chamlas fel Ymgynghorydd Gwleidyddol ym mis Awst 2022.
Magwyd Joe yn Sir Fynwy ac astudiodd yn Ysgol Cas-gwent cyn graddio gyda gradd mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd. Parhaodd Joe ym Mhrifysgol Caerdydd, gan orffen ei radd Meistr mewn Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus yn ddiweddar. Canolbwyntiodd ei draethawd hir ar gyfiawnder a datganoli yng Nghymru, gan archwilio’r achos dros ddatganoli cyfiawnder, a’r posibilrwydd o hynny, trwy gyfweliadau â gwleidyddion o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol.
Ar wahân i gyfiawnder, mae gan Joe hefyd ddiddordeb allweddol mewn polisi addysg, tai a materion gwledig. Y tu allan i’r gwaith, mae’n mwynhau chwarae pêl-droed 5 bob ochr, mynychu digwyddiadau cerddoriaeth fyw, ac archwilio cefn gwlad Cymru.
Ffôn: 029 2063 0646
Ebost: joe@camlas.cymru