Camlas
Rhodri ab Owen

Rhodri ab Owen

Rheolwr Gyfarwyddwr

Mae Rhodri ab Owen yn Rheolwr Gyfarwyddwr Camlas. Mae wedi gweithio ym maes materion cyhoeddus yng Nghymru ers 2008 ac mae ganddo brofiad a gwybodaeth helaeth am y byd gwleidyddol ac mae’n arbenigwr mewn etholiadau a’r setliad datganoli. Mae Rhodri yn darparu cyngor arbenigol i’w gleientiaid ar strategaethau gwleidyddol, rheoli materion ac yn arwain ymgyrchoedd materion cyhoeddus sy’n dylanwadu ar ddeddfwriaeth a rheoliadau. Mae Rhodri yn cynghori cwmnïau blaenllaw gan gynnwys AstraZeneca, Novartis a VodafoneThree.

Wedi’i eni a’i fagu yng Nghaerdydd, graddiodd Rhodri gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Aberystwyth, gan dderbyn gwobr Goffa’r Athro J Mervin Williams. Yn dilyn hyn, cwblhaodd radd ôl-raddedig mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.

Yn gyn-Gadeirydd Materion Cyhoeddus Cymru, mae Rhodri ar hyn o bryd yn llywodraethwr ysgol yn Ysgol Pwll Coch ac yn Ymddiriedolwr i lawer o elusennau lleol.

Ffôn: 029 2063 0646
Ebost: rhodri@camlas.cymru