Camlas
Susan Bowen

Susan Bowen

Cyfarwyddwr a Rheolwr Digwyddiadau

Mae Susan Bowen yn Gyfarwyddwr a Rheolwr Digwyddiadau yn Camlas ac wedi gweithio ym myd materion cyhoeddus yng Nghymru ers dros 20 mlynedd.

Mae mwyafrif o ddigwyddiadau cleientiaid Camlas wedi pasio trwy ddwylo Susan. Gyda chyfoeth o brofiad o reoli logisteg digwyddiadau a chynadleddau o natur wleidyddol, mae Susan yn sicrhau bod digwyddiadau cleientiaid yn rhedeg yn esmwyth – i amser ac i gyllidebu. Mae hi wedi trefnu digwyddiadau i lawer o’n cleientiaid, gan gynnwys y Cyngor Prydeinig, BASW Cymru a Parentkind.

Hi hefyd yw Rheolwr Swyddfa Camlas gyda chyfrifoldeb am gyllided, AD a swyddogaethau gweinyddol.

Ffôn: 029 2063 0646
Ebost: susan@camlas.cymru