Camlas
Gwasanaethau

Gwasanaethau

Rydym yn darparu cyngor, gwybodaeth a deallusrwydd arbenigol i gleientiaid ar bob agwedd ar fywyd gwleidyddol yng Nghymru ac yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau. Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’n gwasanaethau neu hoffech ddysgu mwy, e-bostiwch un o’r tîm neu rhowch alwad ffôn i’r swyddfa.

Ymgynghoriaeth Wleidyddol
Rheoli Digwyddiad
Archwiliadau Rhanddeiliaid
Hyfforddiant Gwleidyddol
Gwasanaeth Fideograffeg a Chyfryngau Creadigol Proffesiynol 
Monitro Gwleidyddol
Cefnogaeth Iaith Gymraeg

Ymgynghoriaeth Wleidyddol

Ble ydych chi’n ffitio i mewn i faterion cyhoeddus Cymru? P’un a ydych am ymgyrchu ar un mater neu eisiau codi’ch proffil corfforaethol, cymunedol neu elusennol, mae’n hanfodol eich bod chi’n gwybod sut, a ble i leoli’ch hun ym maes materion cyhoeddus Cymru.

Mae gan ein holl ymgynghorwyr brofiad sylweddol ym materion cyhoeddus Cymru a gallent hwy eich cynorthwyo chi i werthuso eich sefyllfa gyda rhanddeiliaid gwleidyddol allweddol a gweithio gyda chi i ddyfeisio strategaeth ymgysylltu wleidyddol sy’n gweithio i chi.

Cysylltwch â Rhodri ab Owen am ragor o wybodaeth.

Archwiliadau Rhanddeiliaid

Pa mor dda y mae rhanddeiliaid allweddol yn eich sector yn eich adnabod chi fel sefydliad? Mae Camlas yn cydnabod bod enw da yn allweddol a gallwn eich helpu i ddeall canfyddiadau cyfredol eich sefydliadau a’ch gwaith ymhlith rhanddeiliaid allweddol.

Rydym wedi cynnal llawer o archwiliadau i’n cleientiaid, gan gysylltu’n uniongyrchol â rhanddeiliaid ar eu rhan a darparu dadansoddiad o’r hyn y mae eu hymatebion yn ei olygu i chi a sut y gallwch chi ddefnyddio’r canlyniadau i wella’ch delwedd.

Cysylltwch â Susan Bowen am ragor o wybodaeth.

Monitro Gwleidyddol

Nid yw llywio strwythurau gwleidyddol y Gymru fodern yn syml. Beth sy’n wirioneddol berthnasol a sut ydych chi’n dod o hyd iddo? Nid oes gennych yr amser, yr amynedd na’r tueddiad i’w wneud – felly gadewch inni wneud hynny ar eich rhan!

Mae Camlas yn cynnig gwasanaeth monitro gwleidyddol parhaus o’r Senedd a Llywodraeth Cymru. Mae tanysgrifwyr i’n gwasanaeth monitro gwleidyddol yn derbyn diweddariadau dyddiol ac adroddiad wythnosol cynhwysfawr, gyda chynnwys sy’n unigryw ac wedi’i deilwra’n uniongyrchol i’w sefydliad.

Cysylltwch â Joe Davis am ragor o wybodaeth neu i drefnu treial am ddim.

Rheoli Digwyddiad

Oes gennych chi gynnyrch i’w lansio? Adroddiad i’w hyrwyddo? Rhanddeiliaid i gwrdd? Mae gan Camlas brofiad helaeth o reoli digwyddiadau sydd â dimensiwn gwleidyddol neu bolisi. Felly os ydych angen cynnal derbyniad blynyddol, trafodaeth bwrdd crwn, digwyddiad neu gynhadledd rhanddeiliaid, gadewch i ni drefnu’r cyfan i chi!

Cysylltwch â Susan Bowen am ragor o wybodaeth.

Hyfforddiant Gwleidyddol

Fel y gwyddom i gyd, mae gwleidyddiaeth yn fwystfil sy’n symud ac yn newid yn gyson a gall fod yn anodd cadw i fyny â’r datblygiadau diweddaraf. Dyna pam mae Camlas yn cynnig cyrsiau hyfforddi sydd wedi’u cynllunio a’u cyflwyno gennym ni er mwyn eich diweddaru chi ynglŷn â gwaith y Senedd; Llywodraeth Cymru; deddfwriaeth ddiweddaraf a datblygiadau cyfansoddiadol; ymgyrchu a gweithio gyda gwleidyddion yn effeithiol; ac, ar y cyd-destunau polisi sy’n berthnasol i chi a’ch sefydliad

Cysylltwch â Rhodri ab Owen am ragor o wybodaeth.

Cefnogaeth Iaith Gymraeg

Mae gweithredu’n ddwyieithog yn bwysig inni a chredwn y dylai fod i bawb sy’n gweithio ym materion cyhoeddus yng Nghymru. Felly, mae Camlas yn cynnig gwasanaeth cyfieithu a phrawf ddarllen unigryw i’n cleientiaid, gan weithio ochr yn ochr â chwmni cyfieithu sefydledig. Gallwn gyfieithu darnau bach o waith, fel e-byst neu wahoddiadau, hyd at eitemau mwy, gan gynnwys adroddiadau i’w lansio yn y Senedd.

Cysylltwch â Rhodri ab Owen am ragor o wybodaeth.

Gwasanaeth Fideograffeg a Chyfryngau Creadigol Proffesiynol 

Gan ddod â straeon yn fyw drwy’r lens, gall Camlas gynnig gwasanaeth fideograffeg a chyfryngau creadigol proffesiynol – wedi’i gyflwyno’n yn y Saesneg a’r Gymraeg. P’un a ydych chi’n hyrwyddo busnes, yn cofnodi digwyddiad, neu’n creu cynnwys digidol gydag effaith, byddem yn sicrhau bod eich neges yn atseinio gyda phob cynulleidfa. O’r cysyniad i’r toriad terfynol, rydym yn cyfuno creadigrwydd, sgiliau technegol ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol i adrodd eich stori yn ddilys ac yn effeithiol.

Cysylltwch â Susan Bowen am ragor o wybodaeth.